Generous donation to support potentially lifesaving volunteer responder scheme in Powys

New funding provided by Knighton Hospital and Community League of Friends will help St John Ambulance Cymru volunteers in Powys to support people in their community and save lives. 

The £35,000 donation will support the set-up of a new Volunteer Alternative Responder Team in the Knighton community, funding essential vehicles and medical equipment. This initiative will be run by St John Ambulance Cymru in partnership with the Welsh Ambulance Services University NHS Trust, providing lifesaving care to those in need.

Trained St John Ambulance Cymru volunteers will respond to emergency incidents in the community, providing lifesaving care in the minutes that matter most. Calls will be triaged from the ambulance service to on-call, highly-skilled volunteers nearby that can respond quickly, often before an ambulance can attend.  

St John Ambulance Cymru already runs similar schemes in communities across Wales, complementing NHS resources to ensure people who need it most get the help that they need in an emergency. 

The Knighton Hospital and Community League of Friends is a charity committed to supporting patients and former patients of Knighton Hospital, along with others in the community who are ill and in-need of help. St John Ambulance Cymru’s Volunteer Alternative Responder service will play an essential role in supporting these aims, acting as a lifeline for hurt or unwell individuals in the area. 

Darren Murray, Head of Community Operations at St John Ambulance Cymru commented:

“We’d like to extend our thanks to everyone at the Knighton Hospital and Community League of Friends for their support. 

“This generous donation will support the establishment of a service which has proven invaluable in rural communities across Wales, delivering urgent care and saving lives. This initiative will allow our volunteers to further support the people of Knighton and reduce patient waiting times in an emergency.” 

St John Ambulance Cymru is committed to enhancing the health and wellbeing in communities across Wales and the Volunteer Alternative Responder scheme is just one way they are working towards this. The first aid charity is looking forward to seeing the positive impact this service will have on the health and wellbeing of people in Knighton in the coming months. 

If you’re interested in becoming a volunteer and making a real difference in your community, or if you’d like to find out more about St John Ambulance Cymru’s lifesaving work, please visit www.sjacymru.org.uk.

 

Rhodd hael i gefnogi cynllun ymatebwyr gwirfoddol a allai achub bywydau ym Mhowys

Bydd cyllid newydd gan Gynghrair Cyfeillion Ysbyty a Chymuned Tref-y-Clawdd yn helpu gwirfoddolwyr St John Ambulance Cymru ym Mhowys i gefnogi pobl yn eu cymuned ac achub bywydau.

Bydd y rhodd o £35,000 yn cefnogi sefydlu Tîm Ymatebwyr Amgen Gwirfoddol newydd yng nghymuned Tref y clawdd, gan ariannu cerbydau hanfodol ac offer meddygol. Bydd y fenter hon yn cael ei rhedeg gan St John Ambulance Cymru mewn partneriaeth ag Ymddiriedolaeth Brifysgol GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru, gan ddarparu gofal achub bywyd i'r rhai mewn angen.

Bydd gwirfoddolwyr hyfforddedig St John Ambulance Cymru yn ymateb i ddigwyddiadau brys yn y gymuned, gan ddarparu gofal achub bywyd yn y munudau pwysicaf. Bydd galwadau’n cael eu brysbennu gan y gwasanaeth ambiwlans i wirfoddolwyr tra medrus sydd ar alwad gerllaw ac yn gallu ymateb yn gyflym, yn aml cyn y gall ambiwlans fynychu.

Mae St John Ambulance Cymru eisoes yn cynnal cynlluniau tebyg mewn cymunedau ledled Cymru, gan ategu adnoddau’r GIG i sicrhau bod y bobl sydd ei angen fwyaf yn cael y cymorth sydd ei angen arnynt mewn argyfwng.

Mae yn elusen sydd wedi ymrwymo i gefnogi cleifion a chyn gleifion Ysbyty Tref-y-Clawdd, ynghyd ag eraill yn y gymuned sy’n sâl ac angen cymorth.

Bydd gwasanaeth Ymatebwyr Amgen Gwirfoddol St John Ambulance Cymru yn chwarae rhan hanfodol wrth gefnogi’r nodau hyn, gan weithredu fel achubiaeth i unigolion sydd wedi’u brifo neu’n sâl yn yr ardal.

Dywedodd Darren Murray, Pennaeth Gweithrediadau Cymunedol yn St John Ambulance Cymru: 

“Hoffem estyn ein diolch i bawb yn Gynghrair Cyfeillion Ysbyty a Chymuned Tref-y-Clawdd am ei chefnogaeth.

“Bydd y rhodd hael hon yn cefnogi sefydlu gwasanaeth sydd wedi bod yn amhrisiadwy mewn cymunedau gwledig ledled Cymru, gan ddarparu gofal brys ac achub bywydau. Bydd y fenter hon yn galluogi ein gwirfoddolwyr i gefnogi pobl Tref y Clawdd ymhellach a lleihau amseroedd aros cleifion mewn argyfwng.”

Mae St John Ambulance Cymru wedi ymrwymo i wella iechyd a lles mewn cymunedau ledled Cymru ac mae'r cynllun Ymatebwyr Amgen Gwirfoddol yn un ffordd yn unig y maent yn gweithio tuag at hyn. Mae'r elusen cymorth cyntaf yn edrych ymlaen at weld yr effaith gadarnhaol y bydd y gwasanaeth hwn yn ei gael ar iechyd a lles pobl Tref y Clawdd yn y misoedd nesaf.

Os oes gennych chi ddiddordeb mewn bod yn wirfoddolwr a gwneud gwahaniaeth gwirioneddol yn eich cymuned, neu os hoffech chi ddarganfod mwy am waith achub bywyd St John Ambulance Cymru, ewch i www.sjacymru.org.uk.

 

Published July 9th 2024

Looking for other ways to get involved?

Whatever you enjoy doing and however much time you can commit, there’s a volunteer role for you.

Donate Volunteer