St John Ambulance Cymru are looking to turn thrill-seekers into fundraisers this summer, with two zipline challenges in support of the charity’s dedicated volunteers.
The Zipline for Lifesavers challenge is taking place at Zip World locations in both South and North Wales this June. Participants will need to raise sponsorship for the first aid charity to take on either of these iconic experiences by themselves or as part of a group.
Those based in South Wales will be taking on the Pheonix Zipline, the fastest seated zipline in the world on Saturday 1st June at Zip World Tower in Hirwaun. Participants will reach speeds of up to 70mph flying over the beautiful Llyn Fawr reservoir and Cynon Valley, making memories that will last a lifetime.
For those based in North Wales, the unique zipline-rollercoaster hybrid, Aero Explorer, will be available to fundraisers at Zip World Penrhyn Quarry in Bangor on Saturday 2nd June. Thrill-seekers will climb two spiral towers before launching off and gliding 400m across the vast quarry landscape.
The Zipline for Lifesavers challenge is taking place ahead of Volunteers Week 2024 and is just one way the charity is encouraging support for the work of their dedicated volunteers across Wales this year. St John Ambulance Cymru volunteers provide an essential service in the community, through first aid treatment and training.
First aid can mean the difference between a life saved and a life lost, St John Ambulance Cymru want more people across Wales to be armed with these lifesaving first aid skills. Participants who take on the iconic Zipline for Lifesavers challenge will be raising money in the form of sponsorships, to honour volunteers’ vital work keeping Wales safe.
“Not only will the challenge raise funds for a worthwhile cause in the community, but it’s also a great way to push individuals out of their comfort zone and make lasting memories” says Ellie Barnes, Fundraising and Events Officer at St John Ambulance Cymru.
“It could be a great experience for colleagues, friends or family looking to fundraise together, or for individuals who’d like to get involved in an unusual charity challenge.
“The challenge was a hit last year and participants loved getting stuck in, so we can’t wait to see the public’s reaction this time around!”
To register for the Zipline for Lifesavers challenge, please visit https://www.sjacymru.org.uk/en/calendar. By signing up and pledging to raise the minimum sponsorship of £100, participants will receive a huge 50% discount on the standard Zip World booking fee.
If you’d like to find out more information about this challenge, please contact St John Ambulance Cymru’s Fundraising Team today via fundraising@sjacymru.org.uk or 02920 449626.
Pobl Cymru yn cael eu gwahodd i gymryd rhan mewn her codi arian cyffrous
Mae St John Ambulance Cymru am droi ceiswyr gwefr yn godwyr arian yr haf hwn, gyda dwy her wifren wib i gefnogi gwirfoddolwyr ymroddedig yr elusen.
Mae her Gwibio ar gyfer Achubwyr Bywyd yn cael eu cynnal yn lleoliadau Zip World yn Ne a Gogledd Cymru fis Mehefin eleni. Bydd angen i gyfranogwyr godi nawdd i'r elusen cymorth cyntaf i ymgymryd â'r profiadau eiconig hyn ar eu pennau eu hunain neu fel rhan o grŵp.
Bydd y rhai sydd wedi'u lleoli yn Ne Cymru yn herio'r Pheonix Zipline, y wifren wib â sedd gyflymaf yn y byd, ar ddydd Sadwrn 1 Mehefin yn Zip World Tower yn Hirwaun. Bydd y rhai sy'n cymryd rhan yn cyrraedd cyflymder o hyd at 70mya, gan hedfan dros gronfa ddŵr hyfryd Llyn Fawr a Chwm Cynon, gan greu atgofion a fydd yn para am oes!
I’r rhai sydd wedi’u lleoli yng Ngogledd Cymru, bydd yr Aero Explorer, sy'n gymysgedd unigryw o wifren wib a ffigyr-êt, ar gael i godwyr arian yn Chwarel Penrhyn Zip World ym Mangor ar ddydd Sadwrn Mehefin 2il. Bydd ceiswyr gwefr yn dringo dau dwr troellog cyn lansio a gleidio 400m ar draws tirwedd helaeth y chwarel.
Mae her Gwibio ar gyfer Achubwyr Bywyd yn cael ei chynnal ychydig cyn Wythnos Gwirfoddolwyr 2024, ac mae’n un ffordd yn unig y mae’r elusen yn annog cefnogaeth i waith eu gwirfoddolwyr ymroddedig ledled Cymru eleni. Mae gwirfoddolwyr St John Ambulance Cymru yn darparu gwasanaeth hanfodol yn y gymuned, trwy driniaeth cymorth cyntaf a hyfforddiant.
Gall cymorth cyntaf olygu'r gwahaniaeth rhwng bywyd a achubwyd a bywyd a gollwyd, ac mae St John Ambulance Cymru am i fwy o bobl ledled Cymru dysgu'r sgiliau cymorth cyntaf pwysig hyn. Bydd y rhai sy’n cymryd rhan yn her eiconig Gwibio ar gyfer Achubwyr Bywyd yn codi arian ar ffurf nawdd, i anrhydeddu gwaith hanfodol ein gwirfoddolwyr i gadw Cymru’n ddiogel.
“Nid yn unig y bydd yr her yn codi arian at achos gwerthfawr yn y gymuned, ond mae hefyd yn ffordd wych o wthio unigolion allan o’u parth cysurus a gwneud atgofion parhaol,” meddai Ellie Barnes, Swyddog Codi Arian a Digwyddiadau St John Ambulance Cymru.
“Gallai fod yn brofiad gwych i gydweithwyr, ffrindiau neu deulu sydd am godi arian gyda’i gilydd, neu i unigolion a hoffai gymryd rhan mewn her elusennol anarferol.
“Roedd yr her yn llwyddiant ysgubol y llynedd ac roedd y cyfranogwyr wrth eu bodd, felly allwn ni ddim aros i weld ymateb y cyhoedd y tro hwn!”
I gofrestru ar gyfer yr her Gwibio ar gyfer Achubwyr Bywyd, ewch i https://www.sjacymru.org.uk/cy/calendar. Trwy gofrestru ac addo codi'r lleiafswm nawdd o £100, bydd cyfranogwyr yn cael gostyngiad enfawr o 50% ar ffi archebu safonol Zip World.
Os hoffech chi gael rhagor o wybodaeth am yr her hon, cysylltwch â Thîm Codi Arian St John Ambulance Cymru heddiw drwy fundraising@sjacymru.org.uk neu 02920 449626.