St John Ambulance Cymru marks Falls Awareness Week by announcing new Rapid Response Service in West Wales

SJACFallsCar.jpg

St John Ambulance Cymru has secured a contract to provide a new Welfare and Falls Rapid Response service in the Pembrokeshire area, which will see staff responding to incidents to assess and assist people, reducing demand on Emergency Medical Services.

The Haverfordwest-based scheme will be run in partnership with Hywel Dda University Health Board (HDUHB) and will initially run from October 1st 2024 until March 31st 2025.

The scheme will follow on from the Falls Response scheme which has been operated by St John Ambulance Cymru in partnership with HDUHB and Welsh Ambulance Services University NHS Trust (WASUT) in the same area since January 2023.

The announcement comes as St John Ambulance Cymru marks Falls Awareness Week from 16-20 September alongside fellow members of the National Falls Prevention Taskforce Wales.

The Falls Taskforce is an alliance focused on falls prevention for older people in across the country and includes Age Cymru, Age Connects Wales, Care & Repair Cymru, St John Ambulance Cymru, representatives from all seven health boards, as well as national and local government, public, private and other third sector organisations.

St John Ambulance Cymru’s Head of Ambulance Operations, Helen Coulthard said:

“This new contract is a testament to the great service our staff have provided to people in this area of West Wales as part of the current scheme. To date the scheme has attended to over 1,000 people and saved an ambulance from attending on more than 500 occasions.

“St John Ambulance Cymru continues to build on its record of providing high quality help to patients all over the country and we look forward to continuing that work with this new scheme.”

St John Ambulance Cymru operates Falls Response schemes in communities across Wales, working in partnership with WASUT, Aneurin Bevan University Health Board and the Vale of Glamorgan Council. In 2023 these schemes, together with the current Pembrokeshire scheme, helped a total of 12,815 patients.

Falls Response is just one of the services provided by the charity’s Ambulance Operations team, with more than 24,000 patients helped in 2023, including patient transport and other schemes such as the Taith Dda Mental Health Response Service.

For more information on the Healthcare Services provided by St John Ambulance Cymru, visit www.sjacymru.org.uk/en/page/healthcare-services.

 

St John Ambulance Cymru yn nodi Wythnos Ymwybyddiaeth Cwympiadau trwy gyhoeddi Gwasanaeth Ymateb Cyflym newydd yng Ngorllewin Cymru

Mae St John Ambulance Cymru wedi sicrhau contract i ddarparu gwasanaeth Ymateb Cyflym Lles a Chwympiadau newydd yn ardal Sir Benfro, a fydd yn gweld staff yn ymateb i ddigwyddiadau i asesu a chynorthwyo pobl, gan leihau'r galw ar Wasanaethau Meddygol Brys.

Bydd y cynllun a fydd yn cael ei redeg o Hwlffordd mewn partneriaeth â Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda (BIPHDd), yn rhedeg o 1 Hydref 2024 tan 31 Mawrth 2025 i ddechrau.

Bydd y cynllun yn dilyn ymlaen o’r cynllun Ymateb Cwympiadau sydd wedi’i weithredu gan St John Ambulance Cymru mewn partneriaeth â BIPHDd ac Ymddiriedolaeth Brifysgol GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru (YBGGAC) yn yr un ardal ers mis Ionawr 2023.

Daw’r cyhoeddiad wrth i St John Ambulance Cymru nodi Wythnos Ymwybyddiaeth Cwympiadau o 16-20 Medi ochr yn ochr â chyd-aelodau Tasglu Cenedlaethol Atal Cwympiadau Cymru.

Mae’r Tasglu Cwympiadau yn gynghrair sy’n canolbwyntio ar atal cwympiadau ar gyfer pobl hŷn ledled y wlad ac mae’n cynnwys Age Cymru, Age Connects Cymru, Care and Repair Cymru, St John Ambulance Cymru, cynrychiolwyr o bob un o’r saith bwrdd iechyd, yn ogystal â llywodraethau cenedlaethol a lleol, sefydliadau o'r sectorau cyhoeddus, preifat a sefydliadau trydydd sector eraill.

Dywedodd Pennaeth Gweithrediadau St John Ambulance Cymru, Helen Coulthard:

“Mae’r contract newydd hwn yn dyst i’r gwasanaeth gwych y mae ein staff wedi’i ddarparu i bobl yn yr ardal hon o Orllewin Cymru, fel rhan o’r cynllun presennol. Hyd yma mae'r cynllun wedi rhoi sylw i dros 1,000 o bobl ac wedi arbed ambiwlans rhag mynychu ar fwy na 500 o achlysuron.

“Mae St John Ambulance Cymru yn parhau i adeiladu ar ei record o ddarparu cymorth o ansawdd uchel i gleifion ar hyd a lled y wlad ac edrychwn ymlaen at barhau â’r gwaith hwnnw gyda’r cynllun newydd hwn.”

Mae St John Ambulance Cymru yn gweithredu cynlluniau Ymateb i Gwympiadau mewn cymunedau ledled Cymru, gan weithio mewn partneriaeth â YBGGAC, Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan a Chyngor Bro Morgannwg. Yn 2023, helpodd y cynlluniau hyn, ynghyd â chynllun presennol Sir Benfro, gyfanswm o 12,815 o gleifion.

Ymateb i Gwympiadau yw dim ond un o’r gwasanaethau a ddarperir gan Dîm Gweithrediadau Ambiwlans yr elusen yw Ymateb Cwympiadau, gyda mwy na 24,000 o gleifion wedi’u helpu yn 2023, gan gynnwys trafnidiaeth i gleifion a chynlluniau eraill fel Gwasanaeth Ymateb Iechyd Meddwl Taith Dda.

I gael rhagor o wybodaeth am y gwasanaethau gofal iechyd a ddarperir gan St John Ambulance Cymru, ewch i www.sjacymru.org.uk/en/page/healthcare-services.

Published September 16th 2024

Looking for other ways to get involved?

Whatever you enjoy doing and however much time you can commit, there’s a volunteer role for you.

Donate Volunteer