Vale of Glamorgan Telecare and St John Ambulance Cymru have been working together to reduce response times when vulnerable adults fall at home.
The St John Ambulance Cymru Falls and Welfare Response service has been supporting the Telecare service in the Vale of Glamorgan since October and it has had a hugely positive impact on response times, as well as freeing up invaluable ambulances to respond to other incidents in the community.
Vale of Glamorgan Telecare offers a range of services for vulnerable adults, using digital alarms for individuals who may experience an incident or medical emergency at home. When alarms are raised by pressing a button, individuals are automatically dialled into a 24-hour monitoring centre. The operator will then dispatch either the St John Ambulance Cymru Falls and Welfare response service or, in a medical emergency, the emergency services will be contacted.
The St John Ambulance Cymru Falls and Welfare Response service has been running since 2018. The service plays a pivotal role in supporting people, like those individuals who are supported by the Telecare service, when they need it most.
St John Ambulance Cymru responders perform an assessment of the patients and if appropriate, lift them safely using Mangar Camel or Eagle lifting cushions. This means that unnecessary ambulance visits have been reduced, freeing up ambulances for more severe incidents in the community.
Since October 2022 the partnership has reduced response times dramatically. The Falls Responders have seen 700 Telecare patients who have had an 88% stay at home rate, meaning unnecessary hospital visit are avoided. This means the scheme has saved a front line ambulance being called approximately 616 times!
Gary Pyke, Service Development Manager for the Vale of Glamorgan commented, "Partnering with St John Ambulance Cymru has revolutionised our service in the Vale of Glamorgan. With Telecare, there are no more endless waits for assistance.
Within 45 minutes, a friendly, skilled professional is at their doorstep.
It's transformed the service, prevented ambulance and hospital visits, and enabled citizens to lead more independent lives.”
Since October, St John Ambulance Cymru’s Falls Service has travelled 16,000 miles responding to telecare alarms in the county.
Helen Coulthard, Head of Ambulance Operations at St John Ambulance Cymru commented, "With our team of highly trained and dedicated Falls Responders, we are committed to providing safe, timely and patient focused care to those who have fallen.
We are very proud to provide the Falls and Welfare Response Service to the Vale of Glamorgan council."
The partnership is just one of the revolutionary ways in which these organisation are lifting pressure from the Welsh Ambulance Services NHS Trust whilst delivering a high standard of care for vulnerable members of the community.
You can find out more about the St John Ambulance Cymru’s Falls and Welfare Response service here: www.sjacymru.org.uk/en/page/patient-transport-services
A member of the St John Ambulance Cymru Falls and Welfare Response Service with representatives from the Vale of Glamorgan Telecare.
Cefnogaeth St John Ambulance Cymru yn arbed dros 600 o alwadau ambiwlans diangen mewn dim ond 7 mis ym Mro Morgannwg
Mae Telecare Bro Morgannwg a St John Ambulance Cymru wedi bod yn cydweithio i leihau amseroedd ymateb pan fydd oedolion bregus yn cwympo gartref.
Mae gwasanaeth Ymateb i Godymau ac Ymateb Lles St John Ambulance Cymru wedi bod yn cefnogi’r gwasanaeth Telecareym Mro Morgannwg ers mis Hydref ac mae wedi cael effaith hynod gadarnhaol ar amseroedd ymateb, yn ogystal â rhyddhau ambiwlansys amhrisiadwy i ymateb i ddigwyddiadau eraill yn y gymuned. .
Mae Telecare Bro Morgannwg yn cynnig amrywiaeth o wasanaethau i oedolion agored i niwed, gan ddefnyddio larymau digidol ar gyfer unigolion a allai brofi digwyddiad neu argyfwng meddygol gartref. Pan fydd larymau'n cael eu canu trwy wasgu botwm, mae unigolion yn cael eu deialu'n awtomatig i ganolfan fonitro 24 awr. Bydd y gweithredwr wedyn yn anfon naill ai gwasanaeth ymateb Cwympiadau a Lles St John Ambulance Cymru neu, mewn argyfwng meddygol, cysylltir â’r gwasanaethau brys.
Mae gwasanaeth Ymateb i Godymau ac Ymateb i Les St John Ambulance Cymru wedi bod yn rhedeg ers 2018. Mae’r gwasanaeth yn chwarae rhan ganolog wrth gefnogi pobl, fel yr unigolion hynny sy’n cael eu cefnogi gan y gwasanaeth Teleofal, pan fyddant ei angen fwyaf.
Mae ymatebwyr St John Ambulance Cymru yn cynnal asesiad o'r cleifion ac, os yw'n briodol, yn eu codi'n ddiogel gan ddefnyddio clustogau Mangar Camel neu Eagle. Mae hyn yn golygu bod ymweliadau ambiwlans diangen wedi'u lleihau, gan ryddhau ambiwlansys ar gyfer digwyddiadau mwy difrifol yn y gymuned.
Ers mis Hydref 2022 mae'r bartneriaeth wedi lleihau amseroedd ymateb yn ddramatig. Mae’r Ymatebwyr Cwympiadau wedi gweld 700 o gleifion Telecaresydd wedi cael cyfradd arhosiad o 88% gartref, sy’n golygu bod ymweliadau ysbyty diangen yn cael eu hosgoi. Mae hyn yn golygu bod y cynllun wedi arbed ambiwlans rheng flaen rhag cael ei alw tua 616 o weithiau!
Meddai Gary Pyke, Rheolwr Datblygu Gwasanaeth Bro Morgannwg, “Mae partneriaeth a St John Ambulance Cymru wedi chwyldroi ein gwasanaeth ym Mro Morgannwg. Gyda Telecare, nid oes unrhyw arosiadau di-ben-draw am gymorth.
O fewn 45 munud, mae gweithiwr proffesiynol cyfeillgar, medrus ar garreg eu drws.
Mae wedi trawsnewid y gwasanaeth, wedi atal ymweliadau ambiwlans ac ysbytai, ac wedi galluogi dinasyddion i fyw bywydau mwy annibynnol.”
Ers mis Hydref, mae Gwasanaeth Cwympiadau St John Ambulance Cymru wedi teithio 16,000 o filltiroedd yn ymateb i larymau Telecare yn y sir.
Dywedodd Helen Coulthard, Pennaeth Gweithrediadau Ambiwlans yn St John Ambulance Cymru, “Gyda’n tîm o Ymatebwyr Cwympiadau tra hyfforddedig ac ymroddedig, rydym wedi ymrwymo i ddarparu gofal diogel, amserol sy’n canolbwyntio ar y claf i’r rhai sydd wedi cwympo.
Rydym yn falch iawn o ddarparu’r Gwasanaeth Ymateb i Godymau a Lles i Gyngor Bro Morgannwg.”
Mae'r bartneriaeth yn un o'r ffyrdd chwyldroadol y mae'r sefydliadau hyn yn codi pwysau oddi ar Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru tra'n darparu gofal o safon uchel i aelodau bregus o'r gymuned.
Gallwch ddarganfod mwy am wasanaeth Ymateb i Godymau a Lles St John Ambulance Cymru yma: www.sjacymru.org.uk/cy/page/patient-transport-services.