Eight young people from the first aid charity for Wales, St John Ambulance Cymru, attended a special reception with HRH The Princess Royal last month, to celebrate their commitment to keeping their communities safe. Members of St John Ambulance Cymru’s Badger and Cadet programmes were honoured to attend the event at the Priory Church of St John in London.
The Young Achievers Reception, organised by St John Ambulance in England, allows young volunteers from across England and Wales to meet up and share their experiences. The young people met with The Princess Royal at the event, who congratulated the dozens of inspirational Cadets and Badgers for their hard work. The Princess Royal is the Commandant-in-Chief (Youth) of St John Ambulance.
The young people representing St John Ambulance Cymru at the event had been named the 2023 Badgers and Cadets of the year for each region in Wales, having shown a special commitment to the charity over the past year.
Joseph Humphreys and Mali Stevenson from Pontypridd, Cariad Carpenter and Courtney Smith from Griffithstown, Daniel Summerfield from Bettws Cedewain, Rhys Clissold from Radyr, Izabelle Humphries from Deeside and Harri Argent from Talgarth attended the reception on behalf of St John Ambulance Cymru, and they represented the charity wonderfully.
Mali Stevenson, National Cadet of the Year at St John Ambulance Cymru, commented:
“It was so inspiring to talk to so many other incredible Cadets and hear about their achievements.
“We also loved meeting HRH The Princess Royal who listened to all of our stories.
“The day was so much fun and the environment was really supportive and encouraging. The reception was really special and I'm sure all the Badgers and Cadets that attended would agree that it was a privilege to be invited.”
Kimberley Burns, Young People’s Development Officer at St John Ambulance Cymru attended the reception. She commented:
“We are so proud of the St John Ambulance Cymru young people who attended the Young Achievers Reception. They represented our charity brilliantly.
“Our children and young people programmes are all about learning invaluable life skills, including lifesaving first aid, whilst making great memories and friendships.
“If you are a young person interested in healthcare or simply seeking a fun way to meet new people, then we urge you to reach out and get involved!”
To find out more about St John Ambulance Cymru’s programmes for children and young people, please visit www.sjacymru.org.uk/young-people.
The charity is also recruiting new leaders for their Badger and Cadet groups. If you are interested in volunteering with young people in your area, then please visit http://www.sjacymru.org.uk/volunteer to sign-up today.
Achubwyr bywyd ifanc Cymru yn mynychu seremoni arbennig St John Ambulance gyda’r Dywysoges Frenhinol
Mynychodd wyth o bobl ifanc o elusen cymorth cyntaf Cymru, St John Ambulance Cymru, dderbyniad arbennig gyda’i Huchelder y Dywysoges Frenhinol fis diwethaf, i ddathlu eu hymrwymiad i gadw eu cymunedau’n ddiogel. Roedd yn anrhydedd i aelodau o raglenni ‘Badgers’ a Chadetiaid St John Ambulance Cymru fynychu’r digwyddiad yn Eglwys Priordy Sant Ioan yn Llundain.
Mae Derbyniad Cyflawnwyr Ifanc, a drefnir gan St John Ambulance yn Lloegr, yn galluogi gwirfoddolwyr ifanc o bob rhan o Gymru a Lloegr i gwrdd a rhannu eu profiadau. Cyfarfu’r bobl ifanc â’r Dywysoges Frenhinol yn y digwyddiad, a longyfarchodd y dwsinau o Gadetiaid a ‘Badgers’ ysbrydoledig am eu gwaith caled. Y Dywysoges Frenhinol yw Prif Gomander (Ieuenctid) St John Ambulance.
Roedd y bobl ifanc a oedd yn cynrychioli St John Ambulance Cymru yn y digwyddiad wedi’u henwi’n ‘Badgers’ a Chadetiaid y Flwyddyn 2023 ar gyfer pob rhanbarth yng Nghymru, ar ôl dangos ymrwymiad arbennig i’r elusen dros y flwyddyn ddiwethaf.
Roedd Joseph Humprhreys a Mali Stevenson o Bontypridd, Cariad Carpenter a Courtney Smith o Griffithstown, Daniel Summerfield o Betws Cedewain, Rhys Clissold o Radyr, Izabelle Humphries o Lannau Dyfrdwy a Harri Argent o Dalgarth yn bresennol yn y derbyniad ar ran St John Ambulance Cymru, a ac fe wnaethant gynrichioli'r elusen yn wych.
Dywedodd Mali Stevenson, Cadet Cenedlaethol y Flwyddyn St John Ambulance Cymru:
“Roedd mor ysbrydoledig siarad â chymaint o Gadetiaid anhygoel eraill a chlywed am eu cyflawniadau.
“Roeddem hefyd wrth ein bodd yn cyfarfod Ei Uchelder Brenhinol y Dywysoges Frenhinol, a wrandawodd ar ein holl straeon.
“Roedd y diwrnod llawn hwyl ac roedd yr amgylchedd yn gefnogol ac yn galonogol iawn. Roedd y derbyniad yn arbennig iawn ac rwy’n siŵr y byddai’r holl 'Badgers' a Chadetiaid a fynychodd yn cytuno ei bod yn fraint cael gwahoddiad.”
Roedd Kimberley Burns, Swyddog Datblygu Pobl Ifanc yn St John Ambulance Cymru yn bresennol yn y derbyniad. Meddai:
“Rydym mor falch o bobl ifanc St John Ambulance Cymru a fynychodd Dderbynfa Cyflawnwyr Ifanc. Cynrychiolwyd ein helusen yn wych.”
“Mae ein rhaglenni plant a phobl ifanc i gyd yn ymwneud â dysgu sgiliau bywyd amhrisiadwy, gan gynnwys cymorth cyntaf achub bywyd, wrth wneud atgofion a chyfeillgarwch gwych.
“Os ydych chi’n berson ifanc sydd â diddordeb mewn gofal iechyd neu’n chwilio am ffordd hwyliog o gwrdd â phobl newydd, rydym yn eich annog i estyn allan a chymryd rhan!”
I gael gwybod mwy am raglenni St John Ambulance Cymru ar gyfer plant a phobl ifanc, ewch i www.sjacymru.org.uk/young-people.
Mae'r elusen hefyd yn recriwtio arweinwyr newydd ar gyfer eu grwpiau ‘Badgers’ a Chadetiaid. Os oes gennych ddiddordeb mewn gwirfoddoli gyda phobl ifanc yn eich ardal, yna ewch i http://www.sjacymru.org.uk/volunteer i gofrestru heddiw.